#

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 3 a 17 Mai, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor wedi cwblhau ymchwiliad ar y Goblygiadau Posibl i Gymru wrth Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    15 Mai: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol a'r Rhanbarthau Daneg fel rhan o'i ymchwiliad i Ddyfodol Polisi Rhanbarthol. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan yr Athro John Bell, Prifysgol Caergrawnt, yr Athro Paul Craig, Prifysgol Rhydychen a Dr Jo Hunt, Prifysgol Caerdydd fel rhan o'i ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a chlywodd dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar yr un mater.

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau diweddaraf am Brexit yw Amcangyfrifo'r llinell amser ar gyfer deddfwriaeth Brexit, “Bil y Diddymu Mawr”: Beth yw'r goblygiadau?, a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan delerau “Sefydliad Masnach y Byd” i economi Cymru?.

Arall

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad Dyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal yr ymchwiliad a ganlyn: Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae 'Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol' yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol.

Newyddion

2 Mai: NFU Cymru yn lansio ei Maniffesto Etholiad Cyffredinol.

3 Mai: UAC yn amlinellu blaenoriaethau amaethyddiaeth ym maniffesto’r etholiad cyffredinol.

5 Mai: Etholiad Cyffredinol 2017 - CLA Cymru yn nodi blaenoriaethau gwledig ar gyfer Cymru.

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

4 Mai: Sylwadau gan y Llywydd Donald Tusk ar ôl ei gyfarfod â Phrif Weinidog Norwy Erna Solberg.

17 Mai: Y Llywydd Tusk yn Senedd Ewrop ar Brexit: "Time is of the essence here, and much is at stake".

Y Comisiwn Ewropeaidd

3 Mai: Cyfarwyddebau negodi drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer trafodaethau Erthygl 50 gyda'r Deyrnas Unedig.

3 Mai: Y Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd cam nesaf ym mhroses Erthygl 50 drwy argymell cyfarwyddebau negodi drafft.

3 Mai: Araith gan Michel Barnier yn y gynhadledd i'r wasg ar fabwysiadu argymhelliad y Comisiwn ar y cyfarwyddebau negodi drafft.

5 Mai: Araith gan Michel Barnier yn Seithfed Cynhadledd 'State of the Union', Athrofa Prifysgol Ewropeaidd - siaradodd am Ddiogelu Hawliau Dinasyddion yn y Trafodaethau â'r DU.

10 Mai: Y Comisiwn yn lansio myfyrdod ar harneisio globaleiddio .

11 Mai: Rhagolwg Economaidd y Gwanwyn. Rhagolwg y DU.

11 Mai: Araith gan Michel Barnier yn Nhai'r Oireachtas, Dulyn.

17 Mai: Araith gan y Llywydd Juncker yn sesiwn lawn Senedd Ewrop ar gasgliadau'r Cyngor Ewropeaidd Arbennig (Erthygl 50) ar 29 Ebrill 2017.

17 Mai: Tor cyfraith mis Mai - y Comisiwn yn galw ar y DU i drosi rheolau newydd ar gychod hamdden a'u injan, ac mae'r Comisiwn wedi agor achos o dor cyfraith yn erbyn 14 o Aelod-wladwriaethau (gan gynnwys y DU) am fethu â rhoi gwybod am weithredu sawl rheol gwastraff yr UE.

Senedd Ewrop

3 Mai: Cysylltiadau EU-NATO: dadl gydag Ysgrifennydd Cyffredin NATO Stoltenberg.

3 Mai: ASEau y Pwyllgor yn croesawu cydweithrediad EU-NATO.

5 Mai: Disgwyliadau mawr: Ewropeaid yn datgelu beth yr hoffent yr UE wneud mwy ohono .

9 Mai: Dyfodol yr UE: harneisio globaleiddio.

11 Mai: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: ASEau am i'r UE a'r DU ofalu am hawliau dinasyddion yn gyntaf.

16 Mai: ASEau am ddiogelu dinasyddion rhag effeithiau negyddol globaleiddio.

17 Mai: ASEau yn croesawu undod ar Brexit ac yn galw am ddiwygio'r UE - ASEau yn trafod y canllawiau ar gyfer y trafodaethau â'r DU a'r telerau gadael, a fabwysiadwyd gan Uwch-gynhadledd yr UE ym mis Ebrill, gyda Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk a'r Comisiwn.

17 Mai: Mae UE cryf ac unedig yn hanfodol i gael Cenhedloedd Unedig cryf - António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Newyddion Ewropeaidd

5 Mai: Yr UE yn mapio cynllun am gylchoedd 4 wythnos o sgyrsiau ar Brexit. (Politico)

11 Mai: Addewid Iwerddon Michel Barnier. (Politico)

12 Mai: Tony Blair yng nghyfarfod EPP yn Wicklow ar Brexit. (Politico)

16 Mai: (Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd) Ni all y cytundeb masnach rydd gyda Singapore, yn ei ffurf bresennol, gael ei benderfynu gan yr Undeb Ewropeaidd ar ben ei hun – mae'r cytundeb wedi'i rannu â'r aelod-wladwriaethau ym maes buddsoddi tramor anuniongyrchol (buddsoddiadau ‘portffolio’ a wneir heb unrhyw fwriad i ddylanwadu ar reoli'r gwaith) a'r weithdrefn sy'n llywodraethu'r setliad anghydfod rhwng buddsoddwyr a Gwladwriaethau. Roedd y DU wedi ymuno â'r rhan fwyaf o aelod-wladwriaethau wrth ddweud na all yr UE ar ben ei hun benderfynu ar y cytundeb.

16 Mai: Dyfarniad llys yn gwneud Brexit yn anoddach. Neu'n haws. (Erthygl yn y Politico ar ddyfarniad cytundeb masnach Singapore heddiw)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

7 Mai: Gwlad Prif Weinidog Prydain ag Arlywydd newydd Ffrainc, Macron.

Tŷ’r Cyffredin

Dau Dŷ'r Senedd ar doriad tan yr Etholiad Cyffredinol.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal “cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd”.

3 Mai: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE ei adroddiad Brexit: amaethyddiaeth, yn enwedig ar y goblygiadau o adael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a'r Farchnad Sengl.

Newyddion

15 Mai: Busnesau yn Paratoi i Dorri Cysylltiadau'r Gadwyn Gyflenwi Rhwng y DU a'r UE i Osgoi Tariffau Brexit (Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi).

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

11 Mai: Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar gyfer Trafodaethau'r DU ar Le'r Alban yn Ewrop, Michael Russell MSP.

Llywodraeth yr Alban

3 Mai: Diwygio'r PAC - Ysgrifennydd Materion Gwledig yn gosod syniadau.

6.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

2 Mai: Cyhoeddi Iwerddon a'r trafodaethau ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

9 Mai: Arweiniodd y Taoiseach ddadl ar Iwerddon a Thrafodaethau ar y DU yn gadael yr UE.

11 Mai: Cyfnewid barn gyda Mr Michel Barnier, Prif Drafodwr y Tasglu ar gyfer Paratoi a Chynnal Trafodaethau â'r Deyrnas Unedig.

7.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

Tŷ’r Cyffredin

Llinell amser Brexit: digwyddiadau yn arwain at y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Deddfu ar gyfer Brexit: Bil y Diddymu Mawr.

Arall

Cymryd rheolaeth yn ôl dros bolisi masnach (Institute for Government)

Canlyniad cyfarfod arbennig y Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50) ar 29 Ebrill 2017 (Gwasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop)

Gweithredu Brexit: Mewnfudo (Institute for Government)